Sut fydd Rhaglen 20Twenty o fudd i chi a’ch busnes?

Isod mae rhai o fanteision allweddol y rhaglen a’n llwyddiant hyd yn hyn:

  • Rhannu strategaethau arweinyddiaeth gyda’ch cymheiriaid i gael gwell dealltwriaeth o arweinyddiaeth. Datblygu’ch gwydnwch meddyliol i harneisio eich busnes.
  • Dod yn fwy o arweinydd a meddyliwr strategol .
  • Datblygu’n berfformiwr o safon uchel.
  • Medru manteisio ar Hyfforddwr Gweithredol a fydd yn gweithio gyda chi a’ch helpu i gyflawni’ch amcanion.
  • Gwella’ch rhagolygon personol gyda chymhwyster ar lefel ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth a Lefel 7 gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
  • Cael achrediad gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig o Lefel 3, 4 a 5.
  • Derbyn eithriadau o MBA Gweithredol Prifysgol Metropolitan Caerdydd a gostyngiad yn y ffi os byddwch yn llwyddiannus yn y rhaglen 20Twenty.

• Creu sylfaen gadarn mewn disgyblaethau allweddol fel marchnata a chyllid.
• Datblygu’r adnoddau sydd eu hangen er mwyn gweithredu strategaeth effeithiol yn eich busnes neu’ch sefydliad eich hun.
• Mynediad i’r gwaith ymchwil a’r syniadau diweddaraf ar strategaeth ac arloesedd o Ysgol Reoli Caerdydd.
• Datblygu’ch rhwydwaith proffesiynol gyda’n Clwb Twf 20Twenty
• Datblygu strategaeth twf ar gyfer eich busnes.
• Datblygu’r adnoddau a’r sgiliau arwain sydd eu hangen arnoch i reoli’n llwyddiannus a meithrin arloesedd yn eich busnes.
• Datblygu’r gallu i arwain strategaeth arloesi, gan greu a sicrhau gwerth o dechnolegau newydd a marchnadoedd sy’n datblygu.

Gwyddom yn sgil ein gwaith ymchwil ein hunain mai busnesau bach a chanolig sy’n allweddol i adfywio ein heconomi ranbarthol yng Nghymru. Mae gwerthusiad cyffredinol o’r rhaglen 20Twenty wedi amlygu’r canlynol: 
• Mae dros 400 o gyfranogwyr wedi cychwyn ar y rhaglen ac wedi cyflawni twf o tua 30% ar gyfartaledd dros gyfnod o ddeng mis o ganlyniad i’r rhaglen.
• Mae 56 o fusnesau newydd wedi neu yn cael eu sefydlu.
• Dywedodd 49 o ymatebwyr fod lefelau elw wedi cynyddu.
• Dywed un cwmni iddo weld cynnydd o 300 y cant.
• Dywedodd 50 o gwmnïau iddynt weld cynnydd mewn trosiant gwerthiant o rhwng 1 a 125 y cant.
• Mae dros 250 o gyfranogwyr wedi graddio gyda Thystysgrif Ôl-raddedig a thros 100 wedi cael lefel 5 gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.