Mae ein sesiynau blasu newydd am ddim ar gael ar y dyddiadau isod. Bydd pob un yn rhedeg rhwng 8.30 a.m a 10.30 am:
DE CYMRU (CAERDYDD)
COFNODI DIDDORDEBGOGLEDD CYMRU (WRECSAM)
A oes digon ynoch chi i chi gael dod yn arweinydd gwych?
Mae busnesau o bob math a phob maint, perchnogion, arweinwyr tîm a chyflogeion sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa wedi iddyn nhw gwblhau’r rhaglen. Mae mwy na 10% o’r rheiny sydd ar restr nodedig y ‘300 busnes uchaf’ yng Nghymru wedi bod ar y rhaglen.
Bwriad y sesiynau blasu yw:
- Cwrdd â hwyluswyr, hyfforddwyr a thiwtoriaid y tîm;
- Archwilio pam mae sgiliau arweinyddiaeth mor bwysig;
- Darganfod sut gall y 20Twenty dyfu eich busnes neu eich adran;
- Rhwydweithio gyda phobl broffesiynol o’r un meddwl;
- • Archwilio ystod y cymwysterau opsiynol a fydd ar gael oddi wrth CMI Lefel 4 i 7 (gan gynnwys Tystysgrif i Raddedigion);
- Rhoi gwybodaeth am gost ac amserlenni’r rhaglen.
I ba sesiwn dylwn i fynd?
A wnewch chi sicrhau eich bod yn dewis sesiwn a fydd yn cynnwys y llwybr sydd o ddiddordeb i chi (gallwch ddewis hwn yng nghwymplen y ffurflen gofrestru fer). Os nad ydych yn siŵr, gallwch ddod i sesiwn a fydd yn cynnwys y ddau. Mae dau lwybr ar gael ar hyn o bryd:
- Lefel 4 – – ‘Llwybr Cyflym’ ar gyfer rheolwyr, darpar arweinwyr ac arweinwyr tîm – 7 diwrnod dros 4 mis.
- Lefel 7 – ‘Rhaglen Lawn’ ar gyfer cyfarwyddwyr, uwch reolwyr a pherchnogion busnes – 15 diwrnod dros 10 mis.