Cynhelir Rhaglen Dwf Busnes yr 20Ugain (20Twenty Business Growth Programme) gan Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter (CLEC) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae gan y tîm brofiad helaeth o lunio a chyflenwi amrywiaeth o gyrsiau, o weithdai dyddiol i raglenni blynyddol hirach. Cynigir rhaglen yr 20Ugain gan academyddion a gweithwyr proffesiynol busnes profiadol iawn sydd i gyd yn meddu ar arbenigedd sylweddol ym maes hyfforddi busnes, entrepreneuriaeth, sgiliau arweinyddiaeth a rheoli.

Brian Morgan ydy Athro Entrepreneuriaeth cyfredol Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Chyfarwyddwr ei Chanolfan Arweinyddiaeth Greadigol ac Menter (CLEC). Rhwng 1997 a 2007, fe oedd Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Cwmnïau Bach yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd.
Cyn dychwelyd i’r byd academaidd yn 1997, fe oedd Prif Economegydd y WDA (Awdurdod Datblygu Cymru). Gweithiodd hefyd fel Uwch Ymgynghorydd Economaidd yn Adran Masnach a Diwydiant Whitehall a gweithio lawer yn Ewrop i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD a’r UE). Ar hyn o bryd mae’n cynghori Llywodraeth Cymru ac, yn ddiweddar, cyhoeddodd Adolygiad Ardrethu Busnes Cymru (2013).
Mae’n Gyfarwyddwr nifer o fusnesau yng Nghymru yn cynnwys:
- Aelod o Fwrdd Prifddinas-Ranbarth Cymru
- Cyfarwyddwr, New Conventions Cyf.– sy’n datblygu canolfan gynadledda ar gyfer Caerdydd
- Ymgynghorydd i Quantum Advisory – arbenigwyr actiwari annibynnol.
- Sylfaenydd a Chadeirydd cyntaf, 1998-2008, Penderyn Whisky/Wisgi Penderyn.

Addysgwyd Jeff Davies yn Mhrifysgol Abertawe gan gwblhau cwrs dwy flynedd gradd Meistr drwy ymchwil ar ‘Economeg Hysbysebu”. Ymunodd â Rolls Royce Aero Engines Ltd (Bryste) yn 1969 fel Rheolwr Masnachol oedd yn gyfrifol am weinyddu cyllid contractau’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae gan Jeff brofiad helaeth o weithio gyda BBaCh, yn gweithredu fel ymgynghorydd i gwmnïau megis Allied Irish Bank a chynorthwyo cleientiaid i wella eu gweithdrefnau rheoli arian. Yn 1980, sefydlodd e a dau bartner arall y cwmni Codas Business Systems Cyf a fe oedd y Cyfarwyddwr Ariannol.

Mae Annie yn Gyfarwyddwr Compass Coaching and Consulting Ltd, ymgynghoriaeth hyfforddi timoedd gweithredol, hwyluso a datblygu perfformiad uchel. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithio mewn swyddi arwain a rheoli yn y sector cyhoeddus a phreifat a chafodd y profiad hwnnw ei gydnabod yn annibynnol drwy dderbyn Gwobr Cyflawniad Rheolaeth Menywod Cymru yn 2003. Cyfrannodd Annie at nifer o swyddi allweddol, yn arwain timoedd rhyngwladol mawr yn Hyder PLC a sefydlu a datblygu’r Ymddiriedolaeth Garbon yng Nghymru. Yn raddedig, mae Annie yn hyfforddwr gweithredol achredig (ILM Lefel 7 mewn Mentora Arweinyddiaeth a Hyfforddi Gweithredol a Chorfforaethol ac Ymarferydd NLP. Mae Annie wedi gweithio gyda Met Caerdydd fel hyfforddwr gweithredol, tiwtor a hwylusydd ers 2006 ac wedi hyfforddi dros 300 o unigolion o Brif Weithredwyr i Reolwyr Canol.

Mae Mandy Johnson yn hyfforddwr gweithredol cymwysedig, yn ymarferydd Meistr NLP a goruchwylydd hyfforddi. Mae’n gweithio gyda nifer o sefydliadau mawr a bach i ddatblygu’r gallu i arwain a rheoli. Cyn iddi gychwyn ei busnes ei hunan, mwynhaodd weithio mewn uwch swyddi rheoli mewn nifer o sefydliadau yn cynnwys Legal & General, lle enillodd hi a’i thîm Wobr Hyfforddi Cymru am eu rhaglen arweinyddiaeth effeithiol lwyddiannus iawn. Tra’n gweithio yn y sector Gweithgynhyrchu, mwynhaodd weithio yn rhyngwladol, yn Cynorthwyo Prifysgolion, Colegau a Chanolfannau CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig), gyda chefndir cadarn ym maes asesu a dilysu mae ganddi flynyddoedd o brofiad fel tiwtor personol yn cynorthwyo unigolion i gyflawni eu cymwysterau. Mae Mandy yn Gymrawd y Sefydliad Rheolaeth Siartredig ac yn Gymrawd y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae Lorraine yn cydlynu gweithdai Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynorthwyo cynrychiolwyr gyda’u dysgu ac mae ganddi gyfrifoldeb dros aseiniadau. Mae ei swydd hefyd yn cynnwys ymchwil i ba mor effeithiol ydy’r rhaglen, gan gyfrannu at werthuso ac adrodd yn ôl at ein cyllidwyr. Yn ddiweddar, dychwelodd Lorraine i’r byd academaidd ar ôl 14 mlynedd ym maes busnes yn y diwydiant eiddo a gwelliannau i’r cartref, ac ar yr adeg honno, ymrestrodd fel cynrychiolydd ar chwaer raglen twf busnes yn 2011. Felly, mae ganddi brofiad ymarferol ac uniongyrchol o’r hyn ydy integreiddio dysgu tra’n rhedeg busnes. Mae gan Lorraine hefyd, dros 10 mlynedd o brofiad o addysgu oedolion sy’n dychwelyd i fyd addysg a dealltwriaeth drylwyr o’r sialensiau sy’n wynebu ein cynrychiolwyr ynghyd â’u cyflawniadau personol.

Richard Andrews ydy Cyfarwyddwr Corporate Instinct Ltd, ymgynghoriaeth hyfforddi a datblygu sefydliadau. Mae’n hyfforddwr gweithredol cymwysedig gyda nifer o flynyddoedd o brofiad ac ar hyn o bryd mae’n cyfrannu fel ‘arbenigwr galwedigaethol’ i’r adolygiad o Safonau Cenedlaethol Hyfforddi a Mentora. Mae gan Richard dros ugain mlynedd o brofiad yn y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac o gynorthwyo busnesau a sefydliadau dielw, rhai bach a mawr. Mae Richard hefyd yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr mewn sefydliad trydydd sector yng Nghymru.
Darlithwyr gwadd a hyfforddwyr perfformiad:
Mae Andy yn arbenigwr ym maes perfformiad dynol, yn Gyfarwyddwr DNA Definitive ac yn Athro ar Ymweliad ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Drwy ei waith cafodd fynediad i nifer o ddiwydiannau a gwledydd gwahanol o gwmpas y byd. Mae’n gweithio gydag arweinwyr gwleidyddol; gydag unigolion uchel eu gwerth net ac arweinwyr busnes corfforaethol; gydag athletwyr ac hyfforddwyr blaenllaw’r byd (ar lefel y Gemau Olympaidd, y Gymanwlad a Phencampwriaethau’r Byd); y gwasanaethu argyfwng; lluoedd arfog Prydain; a gyda sefydliadau dielw a’r trydydd sector. Yn flaenorol roedd Andy yn aelod o Grŵp Ymgynghorol Chwaraeon Cymru (am 4 blynedd) ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru ar gyfer y Gymdeithas Strôc (am 6 mlynedd).
“Mae’n un o’r bobl fwyaf dawnus yn ei broffesiwn a gwrddes i erioed” Y Farwnes Tessa Jowell, Gweinidog dros Gemau Olympaidd Llundain 2012
Am y 18 mlynedd diwethaf, bu Mike yn gweithio gydag arweinwyr busnes a’u timoedd i gyflawni eu targedau perfformiad, gan droi strategaethau yn ganlyniadau llwyddiannus. Gweithiodd Mike gyda llawer o gleientiaid yn y DU, canol Ewrop a Dwyrain Ewrop, America a’r Dwyrain Pell. Daw ei gleientiaid o nifer o wahanol sectorau a sefydliadau o fewn y sectorau hynny, ac yn eu plith, Manwerthu, Gwasanaethau Ariannol, Fferylliaeth, Technoleg yn cynnwys Levi Strauss, Jo Malone, HSBC, Citi, Deloitte, J&J, HP, y GIG a 3m.
Gareth Loudon ydy Athro Creadigrwydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a Chyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd y Ganolfan Greadigrwydd sy’n cynnal ymchwil, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth ym mhrif feysydd creadigrwydd. Mae gan Gareth dros 30 mlynedd o brofiad ym maes ymchwil academaidd a diwydiannol ac mae wedi datblygu nifer o syniadau ymchwil yn gynhyrchion masnachol ar gyfer cwmnïau, yn cynnwys Apple. Mae hefyd wedi helpu nifer o gwmnïau yng Nghymru gyda’u strategaethau arloesol ac i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Enw’r BBC ar Paul ydy’r ‘Doctor Busnes’ ac mae’n feddyliwr blaengar, uchel ei barch a phrofiadol yn ei faes, yn awdur ac yn arloeswr ar faterion yn ymwneud â newid, datblygiad a strwythurau sefydliad sy’n caniatáu i bobl ffynnu a bod yn llwyddiannus o fewn sefydliadau’r unfed ganrif ar hugain. Bu Paul yn Bennaeth Arweinyddiaeth Prifysgol a Chymrawd Arweinyddiaeth ac ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Ymchwil Prifysgol. Bu Paul yn gweithio yn yr India, Tsieina, Malaysia, Pacistan, Unol Daleithiau’r America a nifer o wledydd Ewrop. Ystyrir gan lawer bod Paul yn areithiwr busnes cyfareddol a gwefreiddiol ac mae galw mawr amdano drwy’r byd, o TEDx i gynadleddau byd-eang a rhyngwladol.
Paul hefyd ydy awdur y llyfr ‘Leadership from the Frontline’, am ei genhadaeth frwd i gynorthwyo sefydliadau blaengar eu syniadau, sefydliadau blaengar a ‘dynol’ drwy eu cynorthwyo i gael gwared ar reolaeth ddi-angen y mae’n credu sy’n llesteirio a mygu’n byd gwaith a’n heconomi.

Graddiodd Jed o Brifysgol Manceinion gyda gradd BA mewn Economeg ac Econometreg ac wedi hynny ennill MBA o Ysgol Fusnes Manceinion. Mae’n hyfforddwr busnes profiadol iawn a phrif feysydd ei arbenigedd ydy cynllunio strategol a busnes, rheoli perfformiad a gwneud penderfyniadau byd busnes.
Mae Jed yn arbenigwr ar dwf uchel, wedi hyfforddi dros 70 o fusnesau twf gyda Winning Pitch ac, yn flaenorol, bu’n ymgynghorydd marchnata strategol gyda Ci Research a Robson Rhodes. Gweithiodd Jed gydag ystod o gwmnïau o rai BBaCh i Gorfforaethau Rhyngwladol, fel arfer yn eu helpu i ffocysu ar gynnig gwerth i gwsmeriaid ac felly i’w rhan-ddeiliaid. Mae’n cael yr enw o fod yn flaengar ei syniadau heb ofni herio syniadau perchnogion busnes a’u harwain i ail-ystyried eu rhagdybiaethau eu hunain.
Ymhlith darlithwyr gwadd eraill mae: Andy Green