Arweinyddiaeth a Thwf Busnes Cymru

Mae gan Arweinyddiaeth a Thwf Busnes Cymru enw da am ragoriaeth am ddarparu sgiliau arwain a rheoli o ansawdd uchel a thwf cynaliadwy i filoedd o fusnesau ledled Cymru.
 
Cyflwynir rhaglenni gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a’u hariannu gan noddwyr fel llywodraethau Cymru a’r DU.

Lwyddiannau

20Twenty Case Study - Andrew Baker - Finance Director at P & A

“Mae wedi ein helpu i greu ffocws strategol fel sefydliad, gan arwain at ddatblygu adran newydd gyfan. Byddwn yn bendant yn argymell y rhaglen gan ei bod o fudd i’r cwmni.”

ANDREW BAKER | CYFARWYDDWR CYLLID | P & A A ZEST

Lwyddiannau
Sophie Williams
“Ers dechrau’r Rhaglen 20Twenty, rwyf wedi mwynhau pob munud. Rwy’n teimlo fy mod wedi cael budd o bob un ohonynt – o safbwynt datblygiad personol a phroffesiynol. Rwyf wedi cyflwyno rhai o’r technegau rydym wedi’u hymarfer yn y gweithdai yn fy adran yn barod, ac wedi gweld bod y sesiynau hyfforddi yn adnodd gwych ar gyfer hunan-fyfyrio ar eich dulliau rheoli/arweinyddiaeth presennol.”
Sophie Williams / Admiral
Ben Cottam
“Mae’r rhaglen 20Twenty wedi bod yn gyffrous, yn her ac yn werthfawr iawn yn bersonol. Mae cael y lle a’r cyfle i ddysgu gan arbenigwyr a chymheiriaid o sefydliadau amrywiol ac i herio confensiwn ar gwestiynau’n ymwneud ag arweinyddiaeth wedi bod yn hanfodol i mi wrth ddatblygu fy sgiliau arweinyddiaeth fy hun. Mae’r sgiliau hyn wedi bod yn bwysig o ran datblygu fy rôl a’m heffaith ac mae’r gallu i ddatblygu fy rhwydwaith drwy’r rhaglen wedi bod yn amhrisiadwy.”
Ben Cottam / ACCA Global
Antonina Mendola
“Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth 20Twenty wedi fy ysbrydoli mewn sawl ffordd. Mae wedi ehangu fy ymwybyddiaeth a’m dealltwriaeth o faterion arweinyddiaeth a rheoli cynaliadwy ac wedi rhoi persbectif newydd i mi ar y wybodaeth a gallaf ddefnyddio’r dulliau a’r technegau a ddysgais yn fy musnes. Cwblheais y Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth sy’n fy ngalluogi i ymchwilio i feysydd nad oeddwn wedi ymchwilio’n fanwl iawn iddynt. Mae’r rhaglen wedi rhoi’r hyder i mi arloesi a datblygu fy musnes a oedd yn rhywbeth nad oeddwn wedi gallu gwneud cyn ymuno â’r rhaglen.”
Antonina Mendola / Business Owner
Rebecca Iddon
“Fe wnaeth 20Twenty gyfoethogi fy mhrofiad yn y gweithle. Mae’r rhaglen yn ffynhonnell wych o wybodaeth a chefnogaeth i rywun sydd eisiau datblygu ei yrfa i’r lefel nesaf. Roedd yn cynnig toreth o wybodaeth oedd yn llawer mwy na’r damcaniaethol yn unig. Roedd yn cynnig enghreifftiau o sefyllfaoedd mewn bywyd go iawn, ac rwyf wedi darganfod dull o arwain nad oeddwn yn ymwybodol ohono hyd yn oed. Llwyddodd 20Twenty i ailgynnau fy awydd i ddysgu a’m cyflwyno i rwydwaith o weithwyr proffesiynol sydd wedi cael effaith ar fy ngyrfa a’m syniadau am arweinyddiaeth a bwriadaf barhau i’w defnyddio. Fe wnes gwblhau’r cymhwyster ôl-raddedig. Gyda hyfforddwyr gweithredol wrth law a darlithoedd a siaradwyr gwadd penigamp, bydd y rhaglen hon yn dangos gwerth cysyniadau sy’n seiliedig ar theori a ffyrdd newydd o weithio i chi.”
Rebecca Iddon / Promo Cymru