Busnesau’n Cael Cymorth i Dyfu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Help to Grow Leadership at Cardiff Met

Mae’r CAMG (Canolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, newydd ddathlu llwyddiannau 20 o arweinwyr BBaCh yng Nghymru. Nhw yw’r grŵp cyntaf ym Met Caerdydd i gwblhau’r rhaglen Cymorth i Dyfu Rheolaeth a gefnogir gan y Llywodraeth, ac mae’r adborth wedi bod yn rhagorol.

Mae’r rhaglen Cymorth i Dyfu ym Met Caerdydd ar gyfer perchnogion busnes ac uwch arweinwyr sy’n gweithredu mewn busnesau bach a chanolig yn unig, ac sy’n awyddus i dyfu eu sefydliadau, gwella eu sgiliau arwain a chael gafael ar fentora i helpu i ddatrys problemau yn eu sefydliadau.

Help To Grow Final Cohort

Cyfarwyddwr B and B Industrial Doors, cwmni o Gaerffili sy’n cynhyrchu drysau sy’n rholio ynghau, yw Jon Oliver, a gymerodd ran yn y cwrs i ddatblygu ei hun ac i fuddsoddi yn ei fusnes, wrth hefyd gyd-fynd â dyheadau ac ethos twf y busnes ei hun. Meddai Jon:

“Am brofiad gwych. Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n deall sut mae busnes yn cael ei redeg nes i mi ddilyn y rhaglen Cymorth i Dyfu.

“Roedd cael yr amser i fyfyrio a gwrando ar yr athrawon/tiwtoriaid a’r siaradwyr gwadd, a’n bod wedi cael y fantais o ofyn cwestiynau a dysgu o bob rhan o’r rhaglen, yn amhrisiadwy. Mae’r rhaglen gyfan wedi agor fy meddwl.

“Mae dim ond cymryd amser i ddeall fy nghwsmeriaid a datblygu personâu cwsmeriaid wedi bod yn ddiddorol. Bu’r daith gyfan drwy’r rhaglen yn brofiad gwych a byddwn yn annog unrhyw un i’w ddilyn.”

Jon Oliver - B&B Industrial Doors

UCHOD: HWYLUSYDD Y RHAGLEN, LIZ FLINT (CHWITH), CYFRANOGWR CYMORTH I DYFU, JON OLIVER (DDE)

Beth yw’r Rhaglen Cymorth i Dyfu: Rheolaeth?

Mae’r rhaglen yn darparu mentora 1-1 a hyfforddiant o’r radd flaenaf i arweinwyr busnesau bach a chanolig.

Mae Cymorth i Dyfu: Rheolaeth, a gyflwynir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac sydd ag achrediad y Siarter Busnesau Bach, yn cynnwys 50 awr o hyfforddiant manwl, mentora busnes 1:1, a’r cyfle i dyfu eich busnes yn gyflym.

Dim ond £750 yw cost y rhaglen (cwrs gwerth £6750) ac mae llywodraeth y DU yn rhoi cymhorthdal o 90% tuag ati.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn hawdd ei gwblhau ochr yn ochr â gwaith llawn amser, a gallwch gymryd rhan o gwmpas eich ymrwymiadau gwaith presennol a chael eich dysgu trwy gyfuniad o sesiynau byr ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Dealltwriaeth Fanylach o Fusnes

Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Ffisiotherapydd Back2Front Physiotherapy Ltd, busnes Ffisiotherapi a thylino yn Aberdâr, yw Chris Watts. Cwblhaodd y cwrs i dyfu ei fusnes ac edrych ar gyfeiriad strategol y busnes.  Dywedodd Chris:

“Gan nad oeddwn i wedi derbyn unrhyw hyfforddiant busnes ffurfiol fel rhan o fy ngradd ffisio, dewisais gofrestru ar y cwrs Cymorth i Dyfu, a dwi mor falch imi wneud hynny. Mae pob modiwl yn eich annog i ymchwilio’n fanylach i strwythur eich busnes, deall pam eich bod yn gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud a strategaethau i wneud eich cwmni’n fwy ac yn well.”

Gwnaeth cynnwys y modiwl argraff dda ar Chris hefyd, gyda “phob modiwl yn ymchwilio’n fanylach i strwythur eich busnes”.

Ychwanegodd Chris: “Rydych chi’n gallu deall pam eich bod chi’n gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud a strategaethau i wneud eich cwmni’n fwy ac yn well. Fel micro-fusnes, gallwch gael eich gorlethu gan eich prosesau o ddydd i ddydd, ond mae Cymorth i Dyfu wedi dysgu i mi fod angen i chi gymryd cam yn ôl i werthuso er mwyn camu ymlaen.”

Chris Watts Help To Grow Cardiff Met

UCHOD: HWYLUSYDD Y RHAGLEN, LIZ FLINT (CHWITH), CYFRANOGWR CYMORTH I DYFU, CHRIS WATTS (DDE)

Dywedodd yr Athro David Brooksbank, Deon Ysgol Reoli Caerdydd:

“Daeth ein carfan gyntaf o BBaCh o bob rhan o Gymru ac roedd yn cynnwys perchnogion busnes ym meysydd gweithgynhyrchu, adeiladu, marchnata a chyfathrebu, lletygarwch a thwristiaeth, peirianneg a gwasanaethau proffesiynol.

“Rhoddodd hyn gyfleoedd i ddysgu dulliau o arwain twf busnes gan grŵp o gwmnïau amrywiol a hynod ddiddorol.”

Posibiliadau Newydd mewn Busnes

Mynychodd Anna Gresty, Rheolwr Gyfarwyddwr TP Transcription Ltd yn Ninbych, Gogledd Cymru, y cwrs i gael help gyda thwf a datblygiad busnes. Meddai Anna:

“Roedd Cymorth i Dyfu’n hynod ddefnyddiol i mi. Mae wedi peri i mi feddwl am y busnes, twf a datblygiad busnes, ynghyd â dyfodol y busnes. Mae wedi creu llawer o bosibiliadau a chamau gweithredu newydd rwy’n edrych ymlaen yn fawr at geisio eu rhoi ar waith.”

“Mae’n anodd iawn fel perchennog busnes i gael arweiniad a chyngor arbenigol ar redeg a gweithredu busnes. Mae fy mentor wedi bod yn gymorth amhrisiadwy, yn fy arwain drwy’r cwrs ac yn cynnig y cyfle i drafod fy heriau penodol.

“Rhoddodd y cwrs sylfaen dda iawn i mi ym mhob agwedd ar reoli, yn ogystal â chreu cyfle i feddwl a chaniatáu i mi ddatblygu cysylltiadau yng Nghymru.”

Cefnogi Busnesau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Dim ond un rhan o’r gefnogaeth a gynigir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i fusnesau lleol yw Cymorth i Dyfu, sy’n cynnwys dilyniant o gyrsiau arwain a rheoli proffesiynol fel y Rhaglen Arweinyddiaeth 20Twenty, cyfleoedd rhwydweithio, cydweithio ar ymchwil, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, a chyfleoedd i weithio gyda’n myfyrwyr.

Ychwanegodd yr Athro Brooksbank: “Roedd cyflwyno’r rhaglen mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn galluogi busnesau ledled Cymru i ddod at ei gilydd i rannu eu syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd.

“Gwelwyd mai hyn oedd un o’r manteision mawr o gyflawni drwy fodel dysgu hybrid, gan alluogi busnesau i elwa ar y cymorth ychwanegol a ddarparwyd gan ein tîm o academyddion rhagorol, hwylusydd y rhaglen a mentoriaid busnes.”

Gallwch ddysgu rhagor am y rhaglen Cymorth i Dyfu ym Mhrifysgol Met Caerdydd a chofrestru fel rhan o’r garfan nesaf isod.