Rhaglen arweinyddiaeth uchel ei pharch yn taro’r nodau cywir i gyd gyda rheolwr stiwdio cerddoriaeth talentog

Ollivia Gallagher

Mae Wrexham Sounds wedi mynd o nerth i nerth ers agor ei ddrysau ym mis Chwefror, gan ddarparu gweithgareddau, cyrsiau a gwersi cerddoriaeth i blant a phobl ifanc difreintiedig.

Mae ysgolion, asiantaethau, elusennau a theuluoedd wedi manteisio ar y fenter gymdeithasol sydd wedi ei lleoli yn Rhosrobin, sy’n defnyddio tîm dawnus o diwtoriaid llawrydd i ddarparu ei gwasanaethau.

Wrth y llyw mae Olivia Gallagher, y rheolwr cyffredinol, sy’n aelod o’r garfan bresennol o fyfyrwyr CMI Lefel 7 ar y rhaglen arweinyddiaeth boblogaidd 20Twenty, a gyflwynir gan Brifysgol Bangor yn Holt Lodge, Wrecsam, i sefydliadau yng ngogledd Powys, Sir y Fflint, a Wrecsam.

Dywed y ddynes 26 oed fod y gweithdai rhyngweithiol, y sesiynau astudio a’r rhwydweithio gyda chynrychiolwyr o wahanol ddiwydiannau wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddi.

“Wrth i Wrexham Sounds dyfu, rydw innau hefyd yn tyfu’n broffesiynol, yn dysgu pethau newydd drwy’r amser am y sector ac yn ennill profiad hanfodol,” meddai Olivia, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd St Joseph.

“Roeddwn i’n meddwl y byddai’n rhaglen ddiddorol a allai fy helpu i ddatblygu fy sgiliau arwain a rheoli, ac mae hynny’n bendant wedi bod yn wir.

“Yn ogystal â’r seminarau a’r gweithdai ar-lein ac yn y cnawd, rydw i wedi mwynhau rhyngweithio a rhannu syniadau gydag aelodau eraill o’r grŵp, sy’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd.”

A former PGCE student at Aberystwyth University, Olivia also has a degree in Interactive Arts from Manchester Metropolitan University and studied at the University of Lapland as part of the Erasmus Programme.

Yn gyn-fyfyrwraig TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gan Olivia hefyd radd yn y Celfyddydau Rhyngweithiol o Brifysgol Fetropolitan Manceinion a bu’n astudio hefyd ym Mhrifysgol Lapland fel rhan o Raglen Erasmus.

Ychwanegodd: “Fel sefydliad rydym wedi ffurfio cysylltiadau cryf yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â gydag addysgwyr, sefydliadau trydydd sector ac elusennau.

“Ers agor rydym wedi cymryd camau breision ac fel llawer o bobl eraill yn ystod y pandemig, rydym wedi gorfod wynebu heriau hefyd.

Hyder Arweinyddiaeth

“Mae bod ar y rhaglen eisoes wedi rhoi hyder ychwanegol i mi ac mae’r gwersi a’r arweiniad a gefais wedi cael effaith gadarnhaol ar sut rydw i’n mynd i’r afael â’m swydd yn strategol.

“Mae’r rhaglen hefyd yn cyfrannu at gymhwyster MBA (Meistr Gweinyddu Busnes) ac felly mae’n cynnwys llawer o nodweddion gwerthu unigryw a byddwn yn bendant yn annog pobl eraill mewn swyddi arweinyddiaeth i gofrestru.”

Meddai Jackie Whittaker, Rheolwr Datblygu Busnes 20Twenty: “Mae’n galonogol clywed bob amser sut mae’r rhaglenni Arwain Twf wedi effeithio ar y cyfranogwyr a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli, gan roi’r adnoddau a’r technegau iddynt lwyddo fel rheolwyr.

“Rwyf yn falch iawn dros Olivia, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi gyda gweddill y cwrs, ac yn ei dyfodol disglair gyda Wrexham Sounds.”

Bydd carfan nesaf CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig) Lefel 5-7 o uwch reolwyr, perchnogion a chyfarwyddwyr yn dechrau ym mis Medi.

Mae lleoedd ar gael o hyd ar gyfer y rhaglenni – sy’n cael eu hariannu 80% gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, anfonwch e-bost i j.whittaker@bangor.ac.uk neu ewch i’r wefan: www.20TwentyBusinessGrowth.com.