Strategaeth Frandio Wedi’i Wneud yn Syml – Sut i Gynyddu Cyrhaeddiad ac Enw Da

Brand strategy image - drawings and glasses on a desk

Gan Dr Marina Hauer, Ymgynghorydd Datblygu Brand yn Stiwdio Apricity a Llefarydd Arbenigol ar y Rhaglen Rheoli Cymorth i Dyfu

Nid oes gan y rhan fwyaf o Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau) strategaeth frandio ddiffiniedig. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod perchnogion busnesau prysur yn aml yn ei ddiystyru fel rhywbeth mawr, cymhleth a drud. Rhywbeth fyddai ei angen ar Coca-Cola neu’r BBC.

Clywn y gair ‘strategaeth’ a gwelwn ddelwedd o Gadfridogion o amgylch bwrdd mapiau anferth. Dychmygwn dudalennau di-rif o ddiagramau, y beth os a’r beth nesaf. Ac yn wir, mae’n debyg bod y rhan fwyaf o ymgynghorwyr yn atgyfnerthu’r syniad hwnnw.

A heb ddealltwriaeth glir o fanteision strategaeth frandio, mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnesau bach yn rhedeg eu gweithrediadau ar reddf.

Ond mewn gwirionedd, ni ddylai strategaeth frandio byth fod yn gymhleth. Mae yna ffordd syml iawn o ail-fframio’r pwnc hwn sy’n ymddangos yn amwys.

Enw da a’ch strategaeth frandio

Mewn erthygl flaenorol, buom yn trafod bod brand, yn ei hanfod, yn gyfystyr ag enw da. Dyma’r hyn y mae pobl yn ei ddweud amdanoch pan nad ydych yn yr ystafell, sut y gwnaethoch iddynt deimlo, a’r hyn y maent yn ei gofio ar ôl delio â chi.

Mae hyn yn golygu bod strategaeth frandio yn gynllun bwriadol ar gyfer ennill enw da penodol.

Yn syml, strategaeth frandio yw:

  • Penderfynu beth rydych chi eisiau bod yn adnabyddus amdano;
  • Dadansoddi ble ydych chi ar hyn o bryd; a
  • Dyfeisio ffyrdd o bontio’r bwlch.

Diffinio eich strategaeth frandio

Mae diffinio eich strategaeth frandio o fudd i fwy na dim ond eich gwelededd, mae’n rhychwantu eich busnes cyfan, gan roi buddion lluosog i chi.

Gwell eglurder (mewnol) – yn enwedig gyda thimau sy’n tyfu

Po fwyaf y bydd busnesau a thimau’n tyfu, y mwyaf hanfodol yw bod yn glir ynghylch yr hyn y mae’r brand yn ei gynrychioli, yr hyn y mae’n ei addo i’ch cwsmeriaid, a sut y gall pawb sy’n gysylltiedig gyfrannu at lwyddiant y genhadaeth.

Po fwyaf o bobl sy’n canu eich clodydd yn gyhoeddus, y mwyaf o bobl fydd yn clywed amdanoch. Gellir defnyddio’r eglurder tîm cyfan hwn fel egwyddor arweiniol ar gyfer gwneud penderfyniadau, yn enwedig mewn sefyllfaoedd o newidiadau neu anawsterau annisgwyl.

Mae un o’r astudiaethau achos rwy’n ei defnyddio yn y gweithdy brand rwy’n ei gyflwyno fel rhan o’r cwrs Cymorth i Dyfu yn dangos yn glir sut gall strategaeth frandio sydd wedi’i diffinio’n dda helpu brand i symud mewn i farchnadoedd newydd.

Gwell eglurder (allanol)

Heb strategaeth frandio, gall busnes weithredu’n dda, er bod posibilrwydd y bydd yn edrych ychydig yn ddigyswllt i’w gwsmeriaid. Gall hyn greu dryswch, ac mae cwsmeriaid sydd wedi drysu fel arfer yn mynd i rywle arall i brynu.

Ond, os oes gan frand eglurder mewnol o ran yr hyn y mae eisiau bod yn adnabyddus amdano, mae’r eglurder hwn yn creu delwedd gyson a phwrpasol i’r rheini sy’n edrych arno o’r tu allan. Mae’r brand yn edrych yn ‘gyflawn’ ac mae’r cydlyniad hwn yn rhoi synnwyr o ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb sy’n gwneud hi’n hawdd i bobl argymell y brand i eraill.

Cyfeiriad a gweledigaeth fwy eglur

Mae gweithio tuag at enw da eglur hefyd yn helpu gyda phob math o benderfyniadau:

  • At bwy na ddylech anelu hysbysebion oherwydd ni fydd hynny’n eich tywys i’r lle yr hoffech fod.
  • Beth ddylech chi ei ychwanegu at eich cynhyrchion (neu waredu o’ch cynhyrchion) neu becynnau gwasanaeth.
  • Sut i siarad â’ch cynulleidfa, darpar gwsmeriaid neu gleientiaid.
  • Eich hunaniaeth gyhoeddus, a beth i’w gefnogi (neu ei wrthwynebu) yn agored.
  • Ble i ychwanegu fflachiadau bach at eich ymgyrchoedd marchnata neu ddosbarthu.
  • Sut i wahaniaethu eich hun yn erbyn eich cystadleuwyr, a hyd yn oed beth i’w godi o ran pris.

Ac oherwydd bod y tîm cyfan yn ei gefnogi, gallant gyfrannu syniadau dylanwadol a newidiadau cadarnhaol mewn ffordd naturiol a phwrpasol.

Mwy o ysbrydoliaeth

Mantais arall tîm sydd â chenhadaeth glir yw croesbeillio gwych o fewnwelediadau, syniadau, cymhelliant ac ysbrydoliaeth. Byddant yn dod o hyd i ffyrdd o swyno eu cwsmeriaid mewn ffyrdd sy’n ychwanegu at ecwiti’r brand. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at gwsmeriaid hapusach ac aelodau tîm mwy bodlon.

Gwahaniaethu yn y farchnad

Mae sefyll allan yn llawer haws pan fyddwch chi’n gwybod beth rydych chi’n sefyll drosto. Neu yn erbyn. A chofiwch, mae’r rhan fwyaf o BBaChau eraill yn gweithredu heb strategaethau brandio.

Byddwch yn synnu pa mor hawdd yw hi i ennill mantais trwy wneud dim mwy nac edrych fel y dewis mwy cyson, mwy dibynadwy, ac felly mwy sicr. Ac mae hyn i gyd yn arwain at dwf wedi’i dargedu, un rhyngweithiad ar y tro.

Sut i ddylunio strategaeth frandio ddylanwadol

Dechreuwch trwy weld pob pwynt cyffwrdd gyda chwsmer fel cyfle i ychwanegu ecwiti brand. Creu profiad da: adio +1. Mae profiadau negyddol neu niwtral yn cyfrif fel -1. Yn naturiol, y nod yw bod yn gyfan gwbl yn y du.

Ar ôl y newid meddylfryd hwn, symudwch ymlaen at y manylion.

  • Dewis nod sy’n gysylltiedig ag enw da – os allech chi gael enw da am un peth yn unig, beth fyddai hynny? Yna, dewiswch ddau nod arall sy’n gysylltiedig ag enw da ac sy’n cefnogi / ategu’r prif nod.
  • Archwilio eich brand cyfredol:
    • Am beth ydych chi’n adnabyddus ar hyn o bryd? Efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn neu ddefnyddio gwrando cymdeithasol.
    • Beth ydych chi’n gwybod eich bod chi’n ei wneud yn dda?
    • Pa feysydd o’ch busnes nad ydynt yn ychwanegu at eich ecwiti brand – ceisiwch nodi meysydd penodol i’w gwella (gorau po fwyaf o fanylion), e.e. dylunio cynnyrch / gwasanaethau, cyflwyno, gwasanaeth cwsmeriaid, marchnata, gwerthu, ac ymgysylltu â gweithwyr.
  • Dyfeisiwch gynllun ar gyfer pob un o’r meysydd gwelliant a nodwyd, er mwyn sicrhau bod eich dull gweithredu cyfredol yn cyd-fynd yn well â’ch nodau sy’n gysylltiedig ag enw da.

Er y bydd cadw at strategaeth frandio yn arwain at dwf oherwydd y ffaith syml eich bod yn edrych yn fwy ‘cyflawn’, mae’n gêm o enillion cynyddrannol.

Mae ecwiti brand yn hynod o anodd ei fesur – ond nid yw hynny’n golygu nad yw’n werth ei wneud. Mae rhagamcanion sy’n gysylltiedig ag enw da a theyrngarwch cwsmeriaid yn agwedd allweddol ar brisiadau busnes pan ddaw’n amser gadael.

Mae’r rhaglen Cymorth i Dyfu yn neilltuo dwy sesiwn gyfan i genhadaeth, gwerthoedd a’u pwysigrwydd wrth adeiladu brand, a chyda rheswm da. Mae’n hynod werthfawr i fusnes allu mynegi pam eu bod yn bodoli, pa broblem y maent yn ei datrys yn y byd a pham mae hynny’n bwysig.

Yn y rhaglen Cymorth i Dyfu, mae hyn yn arwain at weithdy rhyngweithiol yn wythnos chwech, lle mae cyfranogwyr yn profi’n uniongyrchol yr hyn y mae’n ei gymryd i droi gwerthoedd a chredoau yn feithrin enw da, cyfathrebu busnes strategol.