Busnesau’n Parhau i Gael Cymorth i Dyfu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Photo of the whole cohort of the Help to Grow next cohort and two banners advertising the Help to Grow either side(one in Welsh, one in English)

Mae’r Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol (CLEC) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dathlu cyflawniadau 23 o arweinwyr BBaChau Cymreig eraill. Nhw yw’r ail grŵp o fusnesau ym Met Caerdydd i gwblhau’r cwrs Rheoli Cymorth i Dyfu a ariennir 90%.

Mae’r cwrs Cymorth i Dyfu ym Met Caerdydd ar gyfer perchnogion busnes ac uwch arweinwyr sy’n gweithredu mewn busnesau bach a chanolig yn unig, ac sy’n awyddus i dyfu eu sefydliadau, gwella eu sgiliau arwain a chael mynediad at fentora er mwyn rhoi mantais gystadleuol i’w sefydliadau.

Chris Davidge yw Rheolwr Cyffredinol Peter Jones ILG, cwmni o’r Fenni sy’n gweithgynhyrchu nwyddau lledr diwydiannol. Cymerodd ran yn y cwrs i ddatblygu ei sgiliau ymhellach a chanolbwyntio ar feysydd allweddol o’r busnes. Dywedodd Chris:

“Rwyf eisoes wedi argymell y cwrs i gydweithwyr mewnol. Mae wedi bod yn help mawr. Mae Cymorth i Dyfu wedi ein helpu i ddatblygu syniadau newydd. Mae wedi caniatáu i mi edrych ar y rheini’n fwy manwl a’u haddasu i’r hyn rydym yn ei wneud.”

“Y cymysgu gyda gwahanol arweinwyr busnes mewn diwydiannau gwahanol sy’n rhoi syniadau newydd i chi ac yn caniatáu ichi feddwl y tu allan i’r bocs.

“Rydyn ni wedi bod ar gwpl o deithiau gwahanol fel busnes. Edrych ar ein brandio, ein cynlluniau gweithredu a’n staffio a’n diwylliant.

Chris Davidge shaking hands with Brian Morgan for the Help to Grow final session for cohort 2.

Uchod: Yr Athro Brian Morgan (Chwith), Cyfranogwr Cymorth i Dyfu Chris Davidge (dde)

Beth yw’r cwrs Rheoli Cymorth i Dyfu?

Mae’r cwrs yn darparu mentoriaeth 1-1 a hyfforddiant o’r radd flaenaf i arweinwyr busnesau bach a chanolig.

Wedi’i gyflwyno gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a’i achredu i’r Siarter Busnesau Bach, mae Rheoli Cymorth i Dyfu yn cynnig mentora busnes 1:1, a’r cyfle i wella gwytnwch eich busnes. Mae’r cwrs yn rhoi gwersi i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith uniongyrchol ar eu busnes ac yn rhoi’r cyfle iddynt ddysgu gan arweinwyr a rheolwyr busnes eraill.

Mae’r cwrs yn costio £750 yn unig (gwerth £7500) ac mae’n cael cymhorthdal o 90% gan lywodraeth y DU.

Wedi’i gynllunio i fod yn hylaw ochr yn ochr â gwaith llawn amser, gallwch gymryd rhan o amgylch eich ymrwymiadau gwaith presennol a chael mynediad at ddysgu trwy gyfuniad o sesiynau byr ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Strategaethau twf busnes

Becky Harford yw Cyfarwyddwr Benthyg Cymru, llyfrgell o bethau Cymru, sydd o fudd i gymunedau ledled Cymru drwy rwydwaith o eitemau y gallwch eu benthyg yn rhad ac yn hawdd.  Dywedodd Becky:

“Y darn gorau o Cymorth i Dyfu oedd cael y grwpiau cyfoedion wedyn. Gallu cymryd yr hyn yr oeddem wedi’i ddysgu’r diwrnod blaenorol a’i drafod yn agored gyda phobl, a dysgu oddi wrth ein gilydd a bownsio syniadau oddi ar ein gilydd.”

Ychwanegodd hi: “Mae Cymorth i Dyfu wedi rhoi trosolwg i mi o’r hyn sydd angen i ni ei wybod i dyfu fel busnes. Rydym yn fusnes ifanc iawn felly mae wedi bod yn wych cael trosolwg o’r hyn y mae angen i ni feddwl amdano a beth i’w flaenoriaethu wrth symud ymlaen.”

Becky From Benthyg Cymru holding a certificate presented by professor Brian Morgan

Uchod: Yr Athro Brian Morgan (Chwith), Cyfranogwr Cymorth i Dyfu Becky Harford (dde)

Dywedodd yr Athro Brian Morgan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol:

“Daeth ein hail garfan o fusnesau o bob rhan o Gymru ac roedd yn cynrychioli ystod enfawr o sectorau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, gweithgynhyrchu, lletygarwch a gwasanaethau proffesiynol.

Mae’n gyfle gwych i fusnesau gwrdd a dysgu oddi wrth ei gilydd a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i fynd i’r afael â heriau economaidd heddiw, tra’n tyfu eu busnes ar yr un pryd.

Ar ôl iddynt raddio o’r rhaglen, mae Cymorth i Dyfu yn parhau i gefnogi’r arweinwyr busnes hyn trwy gyfres o ddigwyddiadau yn seiliedig ar rwydwaith cyn-fyfyrwyr ffyniannus.”

Ymdeimlad o bwrpas mewn busnes

Mynychodd Vanessa Molloy, Rheolwr Brand Super Rod ym Mlaenafon, y cwrs i gamu’n ôl o’r gwaith o ddydd i ddydd a chanolbwyntio ar dwf a datblygiad busnes. Dywedodd Vanessa:

“Doedden ni ddim wir yn gwybod beth i’w ddisgwyl o’r cwrs Rheoli Cymorth i Dyfu ond ni chawsom siom.

“Mewn amgylchedd prysur iawn o ddydd i ddydd mae’n anodd stopio a myfyrio ar bethau y dylen ni fod yn eu gwneud. Fe wnaeth y cwrs hwn ein gorfodi i feddwl am y busnes mewn ffordd wahanol, a’n helpu i baratoi ar gyfer y pethau nad ydym yn eu gwybod.

“Y peth mwyaf i ni oedd diffinio’n glir ein hymdeimlad o bwrpas fel busnes, rhywbeth a oedd yno bob amser ond yn syml iawn yr oedd angen ei egluro.

“Mae cael dau aelod o’r tîm rheoli gyda sgiliau ac arbenigedd gwahanol yn gwneud y cwrs wedi bod yn gyffrous ac yn fantais wirioneddol i drafod gweithredoedd a symud y busnes yn ei flaen.

Rydyn ni’n teimlo bod gennym ni’r sylfeini i dyfu’r busnes a thyfu’n bersonol fel arweinwyr trwy fynd â’n gweithwyr ar yr un daith.”

Vanessa from Superod discussing with colleague at the Help To Grow Management programme.

Above: Help to Grow Participant Vanessa Molloy (right), Help to Grow Participant – Sam Horseman (Left)

Cefnogi busnesau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae Cymorth i Dyfu yn un rhan yn unig o’r cymorth y mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ei gynnig i fusnesau lleol, sy’n cynnwys amrywiaeth o gyrsiau arwain a rheoli proffesiynol fel y Rhaglen Arweinyddiaeth 20Twenty enwog , yr MBA Gweithredol, cydweithio ymchwil, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a chyfleoedd i gweithio gyda’n myfyrwyr.

Ychwanegodd yr Athro Brian Morgan:

“Un o nodau pwysig Cymorth i Dyfu yw cynnwys cwmnïau mewn gweithgareddau arloesol sy’n eu helpu i ehangu gwerthiant tra hefyd yn cadw i fyny â datblygiadau newydd yn eu sector.

Mae cynnig y cyfle i gyfranogwyr barhau â’u perthynas â Met Caerdydd drwy’r rhwydwaith cyn-fyfyrwyr, yn sicrhau bod twf busnes yn parhau i fod yn flaenoriaeth iddynt wrth symud ymlaen.”

Gallwch ddarganfod mwy am y Cwrs Rheoli Cymorth i Dyfu ym Mhrifysgol Met Caerdydd a chofrestru ar gyfer y cwrs nesaf isod.