Rhaglen Twf Busnes 20Twenty: Cyfweliad â Chynrychiolydd

The House Nameplate Company - Logo

Lisa Boreham, Rheolwr-Gyfarwyddwr The House Nameplate Company (HNPUK)

A allwch chi ddweud wrthym am y cwmni?

Mae The House Nameplate Company wedi’i sefydlu ers 35 mlynedd ac mae’n arwain y farchnad yn y Deyrnas Unedig o ran platiau enwau tai, platiau rhifau tai, blychau llythyrau, a chofebion anifeiliaid anwes.

Mae gennym dîm dylunio a phersonoli mewnol ein hunain, a nhw yw’r unig arbenigwyr mewn blychau llythyrau wedi’u personoli yn y Deyrnas Unedig.  Mae gennym gadwyn cyflenwi yn Ewrop sydd wedi ei dewis a’i dethol yn ofalus, ac rydym yn ymfalchïo yn ein safonau uchel. Rydym yn deall yr hyn sydd ei angen ar y cwsmer ac yn mynd y tu hwnt i’r anghenion hynny.  Rydym yn cynnig ystod eang o gynnyrch mewn amrywiaeth o ddeunyddiau gan gynnwys llechi, eco-garreg, carreg Portland, cerameg, pres ac alwminiwm i enwi dim ond rhai. Daw ein blychau llythyrau o Lithuania ac maent o’r safon uchaf.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda B&Q, John Lewis, The Range, Dunelm, Amazon, Etsy, Robert Dyas a Timpson i enwi dim ond rhai!

Sut gwnaeth y rhaglen 20Twenty eich helpu chi’n bersonol?

Mae 20Twenty wedi fy helpu’n aruthrol. Rhoddodd gymorth i mi ddatblygu fy hunanhyder ac i edrych ar sefyllfaoedd yn wahanol bob amser.

A wnaeth rhaglen 20Twenty eich helpu i lwyddo yn eich busnes neu’ch adran?

Heb os nac oni bai bu’r rhaglen 20Twenty yn gymorth i mi lwyddo yn yr adran yr oeddwn ynddi ar y pryd.

Oes yna lwyddiant neu garreg filltir arbennig rydych chi wedi’i gyflawni yn eich gyrfa ers cwblhau’r cwrs?

O fewn 6 mis i gwblhau’r cwrs 20Twenty cefais fy ngwneud yn Rheolwr-Gyfarwyddwr.

A fyddech chi’n dweud eich bod chi’n well arweinydd ers dilyn y cwrs?

Hoffwn i ddweud hynny, fe ehangodd fy meddwl a newidiodd fy agwedd at fy ngwaith ac at fy nghyd-weithwyr.

A yw’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar y busnes?

Ydy, rydym yn fusnes ar-lein yn bennaf yn dilyn cyfnod COVID ac yn bendant wedi gweld newid sylweddol yn y patrwm gwerthu – mae arferion gwario pobl yn newid yn ystod adegau arwyddocaol megis marwolaeth y ddiweddar Frenhines, newid Prif Weinidog, a hyd yn oed oherwydd y pêl-droed.

Beth ydych chi’n ei ragweld/ddisgwyl o ran y busnes yn 2023?

Nid oes gennym unrhyw ddisgwyliadau mawr ar gyfer 2023 ar ôl gweld cymaint o newidiadau yn ystod 2022. Rydym yn teimlo y bydd yn flwyddyn arall o leiaf nes y byddwn fel busnes yn gweld unrhyw dwf sylweddol.  Mae arferion gwario pobl wedi newid yn aruthrol, ynghyd â’u disgwyliadau o ran ansawdd a chyflymder cyflenwi. Bydd ein twf yn dod o ehangu yn yr Unol Daleithiau, sy’n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gweithio arno ers bron i 3 blynedd.