Twf Busnes Parhaus Ar Gyfer Platts Agriculture Ltd ar 50fed Pen-blwydd

Business Growth on 50th Anniversary For Platts Agriculture Ltd

Mae cwmni teuluol o fri sy’n agosáu at ei ben-blwydd yn hanner cant wedi mynd o nerth i nerth diolch i’n rhaglen fawreddog Twf Busnes 20Ugain, a gyflwynir gan Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Roedd Caroline Platt, Rheolwr Gyfarwyddwr Platts Agriculture Ltd yn Llai, Wrecsam, ymhlith un o’r perchnogion busnes cyntaf i gwblhau’r rhaglen 20Ugain yn Wrecsam.  Ers i Caroline raddio yn 2018, mae pedwar aelod o’i thîm presennol wedi dilyn y rhaglen ar garfanau diweddar; y Cyfarwyddwr Ariannol Ian Hall, Rheolwr Trafnidiaeth y Grŵp – Ashley Wood, y Pennaeth Adnoddau Dynol Nerys Price-Jones a raddiodd gyda chyflogwr blaenorol (Silverlining Ltd) a Nadia McKane, y Rheolwr Gwerthiant a Marchnata.

Mae Caroline wedi cyflogi staff newydd ers dechrau’r pandemig Covid-19 ac mae hefyd wedi lansio busnes cludo nwyddau. Mae Platts yn un o’r cwmnïau mwyaf uchel ei barch yn y rhanbarth ac yn ddiweddar cafodd ei enwi’n ‘Gwmni Teuluol y Flwyddyn‘ y DU yng Ngwobrau’r Ffederasiwn Busnesau Bach.

Platts Agriculture at Award Cermony

Caroline Platt, Rheolwr Gyfarwyddwr Platts Agriculture Ltd (ail o’r chwith)

Twf Busnes

Cafodd 20Ugain effaith gadarnhaol ar eu busnes dros y blynyddoedd ac mae wedi chwarae rhan fawr yn eu twf strategol.

Dywedodd Caroline “Dysgais gymaint ar y rhaglen am arweinyddiaeth a rheolaeth, ond hefyd gan weddill y grŵp.  Daethom ni i gyd at bethau o wahanol onglau ac roeddem yn gallu rhannu’r arferion gorau ac roedd yr agwedd rwydweithio yn amhrisiadwy”.

Sy’n eiriolwr brwd dros Ysgol Busnes Bangor, y byddai 20Ugain yn helpu unrhyw un mewn swydd arweinydd.  Mae’r cyfuniad o addysg, cymorth a gwybodaeth am y diwydiant yn rhoi’r sgiliau i chi ffynnu, beth bynnag fo’r diwydiant.”

Gyda chysylltiadau agos â llawer o’r garfan a thrwy Ysgol Busnes Bangor a Labordai Doethineb 20Ugain, mae Caroline yn gallu parhau â’i thaith bersonol a phroffesiynol, sydd oll yn chwarae rhan yn nhwf y cwmni (gweler yr erthygl am y Labiau Doethineb am fanylion pellach).