Ymchwil yn Dangos bod Rhaglen 20Twenty yn Arwain at Dwf Sylweddol a Chanlyniadau Busnes Gwell i BBaCh

Help To Grow

Mae ymchwil a gafodd ei gynnal gan y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol (CLEC) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi goleuo polisi ac ymarfer rhanbarthol a chenedlaethol rhanddeiliaid y sector, gan arwain at dwf a chanlyniadau busnes gwell i BBaCh.

Mae Rhaglen Arweinyddiaeth 20Twenty a Dyfodol Adeiladu Cymru wedi cyflawni:

  • Twf busnes BBaCh o fwy na £155m, ar draws 1000 o fusnesau,
  • Diogelu a/neu greu mwy na 2,000 o swyddi
  • Creu 25 busnes newydd
  • Dylanwadu ar £7m mewn cyllid grant gan gyflawni elw o £148m i’r trethdalwr – enillion o 2,000% ar fuddsoddiad.

Roedd yr ymchwilwyr a’r cyfranwyr yn cynnwys:

Yr Athro Brian Morgan, yr Athro Nick Clifton, yr Athro Mark Francis, yr Athro Robert Huggins, Dr Daniel Prokop, Dr Piers Thompson, yr Athro Andrew Thomas a’r Athro Gareth Loudon