Ni yw’r unig gwrs arweinyddiaeth a rheolaeth yng Nghymru sy’n cynnig dewis o ‘lwybr cyflym’ o Lefel 3 i Lefel 7 CMI (Sefydliad Rheoli Siartredig), gan gynnwys Tystysgrif i Raddedigion (TR), MBA Gweithredol a dyfarniad Rheolwr Siartredig.
Byddwn yn canolbwyntio ar eich datblygu chi ac, er bod y cymwysterau yn rhai opsiynol, maen nhw wedi’u cymeradwyo’n fawr.
Mae 2 brif lwybr ar gael gan Raglen Twf Busnes 20Twenty:
Tystysgrif i Raddedigion (TR) mewn Arweinyddiaeth a Thystysgrif Lefel 7 CMI (Sefydliad Rheoli Siartredig)
Ar gyfer pwy:
Rheolwyr, Rheolwyr Canol a Pherchnogion Busnes
Hyd y cwrs:
15 diwrnod dros 10 mis
Asesiad:
3 aseiniad ac 1 prosiect
Ein rhaglen unigryw yw’r unig un yn y DU a fydd yn cynnig dyfarniad dwbl (h.y. cymhwyster Lefel 7 CMI mewn Arweinyddiaeth a Thystysgrif i Raddedigion o Brifysgol Metropolitan Caerdydd). Mae’r dystysgrif i raddedigion yn gyfwerth â thraean o MBA Gweithredol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yna bydd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr yn mynd ymlaen i ennill statws Rheolwr Siartredig a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio ‘CMgr’ ar ôl ei henw.
Un o’r manteision allweddol sydd wedi dod yn gyfystyr â’r rhaglen yw’r cyfle i ennill Tystysgrif i Raddedigion mewn Arweinyddiaeth yn ogystal â Thystysgrif Lefel 7 y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI).
Dod yn Rheolwr Siartredig
Wedi i chi gyflawni tystysgrif CMI Lefel 7 oddi wrth y 20Twenty, gallwch wneud cais i’r CMI i gael dod yn Rheolwr Siartredig ac i gael defnyddio ‘CMgr’ ar ôl eich enw. Mae Rheolwr Siartredig yn gydnabyddiaeth ffurfiol o gymhwysedd a phroffesiynoldeb ar lefel weithredol a strategol.
Rhaglen ‘Llwybr Cyflym’ – Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth y CMI (Sefydliad Rheoli Siartredig)
Ar gyfer pwy:
Rheolwyr a Darpar Arweinwyr Tîm
Hyd y cwrs:
7 diwrnod dros 4 mis
Asesiad:
1 aseiniad
Rydym wedi datblygu rhaglen newydd ddeniadol, gyffrous ac unigryw ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr tîm sy’n cynnig dyfarniad Lefel 4 y CMI (Sefydliad Rheoli Siartredig).
Pam CMI?
Mae’r CMI yn Sefydliad Siartredig ac mae’r ILM yn gorff o fewn Grŵp City & Guilds. Mae Siarter Brenhinol yn beth nodedig erioed sydd yn cael ei roi i gyrff enwog sy’n sicr yn ariannol ac sydd â record eithriadol o lwyddiant. Y CMI yw’r unig gorff proffesiynol siartredig ar gyfer rheolaeth yn y DU, mae’n sefydliad o’r radd flaenaf ac mae enw da ganddo sydd wedi’i hir sefydlu am wasanaethau dibynadwy ac uchel eu safon. Yn ogystal, mae’n fwy adnabyddus am ei statws Rheolwyr Siartredig.