Beth yw’r Rhaglen Arwain Twf Busnesau?

Rydym yn adeiladu ar Raglen Arweinyddiaeth flaenllaw 20Twenty. Cychwynnodd dros 500 o gyfranogwyr ar y rhaglen hon.

Twf Busnesau 20Twenty yw’r unig Raglen Arweinyddiaeth yng Nghymru sy’n gwella galluoedd arweinyddiaeth a rheoli, yn sbarduno arloesedd ac yn canolbwyntio ar sicrhau twf proffidiol a chynaliadwy.

Mae’r rhaglen yn derbyn cymhorthdal sylweddol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae 10% o’r 300 o fusnesau mwyaf blaenllaw yng Nghymru wedi bod ar y rhaglen eisoes.

 

YR ATHRO BRIAN MORGAN

Mae gan yr Athro Brian Morgan, Cyfarwyddwr Twf Busnesau 20Twenty, gryn brofiad o ddarparu rhaglenni arweinyddiaeth a rheoli i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ers pymtheng mlynedd a mwy. Gallwch weld proffil llawn Brian yma.

Bydd y wybodaeth, y sgiliau a ddysgir a’r cysylltiadau a wneir ar y rhaglen yn rhoi hwb i’ch potensial o ran gyrfa a bydd o fudd uniongyrchol i’r busnes neu sefydliad yr ydych yn gweithio gydag ef yn awr, ac yn y dyfodol.

Nod Arwain Twf Busnesau 20Twenty fydd datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, darpar reolwyr ac entrepreneuriaid.