Mae’r cwrs twf ac arweinyddiaeth busnes 20Twenty wedi ennill ei blwyf wrth gyflawni sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth o ansawdd uchel gyda ffocws ar ddatblygiad strategol, ysgogi arloesedd a sicrhau twf busnes proffidiol a chynaliadwy. Caiff ei ddarparu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor gyda chymhorthdal gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Dechreuodd dros 1000 o gyfranogwyr ar y rhaglen hon ac mae 10% o’r 300 o’r busnesau gorau yng Nghymru eisoes wedi bod ar y rhaglen.
1) Rhaglen Lawn – Tystysgrif Ôl-raddedig (PgC) mewn Arweinyddiaeth thystysgrif Lefel 7 gan CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig)
I bwy:
Rheolwyr, Rheolwyr Canol a Pherchnogion Busnes
Hyd:
10 Diwrnod dros 10 mis
Asesiad:
1 aseiniad ac 1 prosiect
Ein rhaglen unigryw yw’r unig un yn y DU sy’n cynnig gwobr ddeuol (h.y. cymhwyster Lefel 7 mewn Arweinyddiaeth o’r CMI ynghyd â Thystysgrif i Raddedigion o Brifysgol Met Caerdydd). Mae’r dystysgrif ôl-raddedig yn cyfateb i draean o MBA Gweithredol ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’r cynrychiolwyr yn mynd ymlaen wedyn i ennill statws Rheolwr Siartredig ac i ddefnyddio’r dynodiad ‘CMgr’ ar ôl eu henw. Mae Rheolwr Siartredig yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol o gymhwysedd a phroffesiynoldeb ar lefel weithredol a strategol.
Un o’n prif fanteision sydd wedi dod yn gysylltiedig â’r rhaglen yw’r cyfle i ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth yn ogystal â thystysgrif lefel 7 gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI).
2) Rhaglen ‘Llwybr Carlam’ – Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth o’r CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig)
I bwy:
Rheolwyr a Darpar Arweinwyr Tîm
Hyd:
5 Diwrnod dros 4 mis
Asesiad:
1 aseiniad
Rydym wedi datblygu rhaglen unigryw, gyffrous a diddorol newydd ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr tîm sy’n cynnig dyfarniad lefel 4 gan CMI.
Mae’r cwrs carlam yn eich galluogi i fod y rheolwr yr ydych yn dymuno ei fod mewn 4 mis yn unig ac ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol gyda CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig).
Wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer uwch arweinwyr, mae’r cwrs yn ymdrin â strategaethau ar gyfer twf ac arloesi, arwain timau perfformiad uchel ac arferion busnes cyfrifol. Byddwch yn clywed gan arweinwyr busnes ysbrydoledig ac yn dysgu ochr yn ochr â chyfoedion lleol, gyda mynediad i rwydwaith cyn-fyfyrwyr cenedlaethol.
Mae’r sesiynau’n hyblyg, wedi’u recordio ac ar-lein yn bennaf felly gallent gyd-fynd yn hawdd â’ch ymrwymiadau gwaith a bywyd.
Hyd:
Tua. 50 awr dros 12 wythnos
Mae’r rhaglen 12 wythnos yn cael ei hariannu 90% gan Lywodraeth y DU.