Gan Dr James Whitehead, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Strategol a Siaradwr Arbenigol ar Raglen Rheoli Help to Grow.
Efallai bod Rhyfel y Crimea, a ddigwyddodd rhwng 1854 ac 1856, yn ymddangos fel atgof pell i lawer, ond gadawodd ar ôl etifeddiaeth sy’n parhau i effeithio arnom ni heddiw.
O chwyldro Florence Nightingale mewn nyrsio i un o drychinebau mwyaf hanes milwrol Prydain, mae Rhyfel y Crimea yn parhau i lunio ein dealltwriaeth o arweinyddiaeth, cyfathrebu a dewrder.
Un digwyddiad hynod amlwg yw Ymosodiad y Frigâd Ysgafn, a ddigwyddodd ar 25 Hydref 1854, yn ystod Brwydr Balaclafa.
Roedd Ymosodiad y Frigâd Ysgafn yn drychineb o ran cyfathrebu sy’n cynnig gwersi gwerthfawr i arweinwyr a rheolwyr heddiw. Roedd yn ganlyniad negeseuon amwys, rhagdybiaethau heb eu datgan, safbwyntiau anghydnaws, gelyniaeth bersonol ac afluniad cynyddol o ystyr.
Er mwyn deall y digwyddiadau, rhaid i ni archwilio’r cymeriadau perthnasol a threfn y digwyddiadau.
Y Cymeriadau:
• Yr Arglwydd Rhaglan oedd y Pengadfridog, er nad oedd erioed wedi gorchymyn milwyr mewn brwydr. Fe’i hystyriwyd yn weinyddwr a diplomydd dawnus, ac roedd yn unigolyn dymunol, tyner ac urddasol.
• Yr Arglwydd Lucan oedd Cadfridog y Cafalri, a oedd yn cynnwys y Brigadau Ysgafn a Thrwm. Fe’i hystyriwyd yn ddisgyblwr llym ac roedd yn gallu bod yn greulon, milain a ffroenuchel.
• Arglwydd Aberteifi oedd Cadfridog y Frigâd Ysgafn. Roedd wedi gwasanaethu am ddeng mlynedd ar hugain ond nid oedd erioed wedi clywed ergyd yn cael ei thanio mewn dicter. Daliwyd ef mewn dirmyg gan y wasg a’r cyhoedd am ei ddisgyblaeth lem. Nid oedd ef ac Arglwydd Lucan yn hoff o’i gilydd.
• Capten Nolan oedd yr Aide-de-Camp i Frigadydd Airey, Prif Swyddog Rhaglan. Roedd yn swyddog cafalri dawnus, er bod ei uwch swyddogion yn ei ystyried fel unigolyn trahaus.
Trefn y Digwyddiadau:
• Roedd y Cynghreiriaid (Prydain, Ffrainc a Thwrci) yn gwarchae ar fyddin Rwsia yn Sevastopol, a diogelwyd eu cefn gan nifer o rag-gaerau (lleoliadau canonau / gynnau) ar res o fryniau a elwid yn Causeway Heights.
• Ar 25 Hydref, cipiwyd y rhag-gaerau hyn gan fyddin o 25,000 o Rwsiaid, cyn iddynt ddechrau symud i gyfeiriad porthladd Balaclafa, sef gorsaf gyflenwadau’r Cynghreiriaid.
• Ataliwyd eu hymdrechion gan ‘Linell Goch Denau’ enwog y 93rd Highlanders ac fe’u gwthiwyd yn ôl gan Frigâd Drom Scarlett. Fodd bynnag, methodd y Frigâd Ysgafn â manteisio ar lwyddiant y Frigâd Drom.
• Rhoddodd yr Arglwydd Rhaglan, a oedd yn eistedd ar dir uchel yn gwylio maes y gad, gyfres o gyfarwyddiadau (sy’n destun anghytuno hyd heddiw) i’r Frigâd Ysgafn symud ymlaen, gyda chefnogaeth y milwyr troed, ac i adfer y rhag-gaerau ar Causeway Heights. Ond, oedodd yr Arglwydd Rhaglan, gan dybio fod angen iddo aros i’r milwyr troed.
• Wrth i’r Rwsiaid ddechrau cymryd gynnau’r Cynghreiriaid o’r rhag-gaerau, rhoddodd yr Arglwydd Rhaglan orchymyn ysgrifenedig arall i’r cafalri symud ymlaen yn gyflym i’r blaen er mwyn atal y gelyn rhag cipio’r gynnau. Capten Nolan aeth â’r gorchymyn at Lucan.
• Derbyniodd yr Arglwydd Lucan y gorchmynion, gan ymateb yn ddryslyd trwy ofyn: “Ymosod, syr! Ymosod ar beth? Pa ynnau, syr? Ble a beth i’w wneud?”
• Gwahaniaeth persbectif oedd wrth wraidd y broblem. Yr unig ynnau y gallai’r Arglwydd Lucan eu gweld oedd y rhai ym mhen draw’r dyffryn. Ni allai weld unrhyw ynnau ar Causeway Heights oherwydd ei fod i lawr yn y dyffryn, nid ar y tir uchel.
• Ni wnaeth Capten Nolan helpu. Mewn cynddaredd, dyma fe’n taflu ei freichiau yn yr awyr a dweud: “Fan yna, fy Arglwydd! Dyna eich gelyn! Dyna eich gynnau!” Cymerodd yr Arglwydd Lucan hynny i olygu’r gynnau ym mhen draw’r dyffryn a gorchmynnodd i’r Frigâd Ysgafn symud ymlaen.
• Ymatebodd yr Arglwydd Aberteifi trwy ddweud: “Heb os, Syr, ond gadewch i mi nodi fod gan y Rwsiaid fagnelfa yn y dyffryn o’n blaenau, a magnelfeydd a reifflwyr ar bob ystlys”. Mewn geiriau arall, mae hyn yn wallgofrwydd.
• Serch hynny, aeth y Frigâd Ysgafn mewn i Ddyffryn Angau, gan arwain at 247 o anafusion allan o 673 o swyddogion a dynion. Yn ddiweddarach, anfarwolwyd y digwyddiad yng ngherdd Tennyson:
‘Forward the Light Brigade!’
Was there a man dismay’d?
Not tho’ the soldier knew
Someone had blunder’d:
Theirs not to make reply,
theirs not to reason why,
theirs but to do or die:
Into the valley of Death
Rode the six hundred.
Mae Ymosodiad y Frigâd Ysgafn yn stori rybuddiol am beryglon cyfathrebu ac arweinyddiaeth wael. O ddiffyg cyd-ddealltwriaeth i orchmynion aneglur, mae’r digwyddiadau yn nyffryn angau yn cynnig gwersi gwerthfawr i arweinwyr a rheolwyr heddiw.
Mae trychineb Ymosodiad y Frigâd Ysgafn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cyfathrebu clir a chryno a’r angen i arweinwyr gydweithio er mwyn cyflawni nod cyffredin.