Mae Rhaglen Arweinyddiaeth 20Twenty yn dychwelyd ym mis Mai 2026

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth 20Twenty nesaf, sy’n dechrau ym mis Mai 2026.

Wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur, mae’r rhaglen yn helpu rheolwyr ac arweinwyr i gryfhau eu sgiliau arwain wrth ennill cymwysterau cydnabyddedig sy’n gallu ffitio o gwmpas eu gwaith.

Beth fyddwch chi’n ei gael

  • dewis o lwybrau arweinyddiaeth Lefel 4 neu Lefel 7 y Chartered Management Institute (CMI)
  • tystysgrif ôl-raddedig (PgC) ar Lefel 7 a’r gallu i wneud cais am statws Rheolwr Siartredig (CMgr)
  • hyfforddiant gan arbenigwyr a dysgu gyda chymheiriaid
  • prosiectau ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth yn eich sefydliad
  • strwythur cwrs sydd wedi’i gynllunio i ffitio o gwmpas eich gwaith

Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal yn rhan-amser ac yn canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth ymarferol y gellir ei ddefnyddio’n uniongyrchol yn y gweithle.

Mae dros 1,600 o reolwyr, perchnogion busnes a chyfarwyddwyr ledled Cymru wedi cwblhau’r rhaglen ers iddi ddechrau.

Pa gwrs sy’n iawn i mi?

Mae nifer cyfyngedig o leoedd â chymhorthdal ar gael:

  • CMI Lefel 4: £950 – 5 diwrnod dros 3 mis
  • CMI Lefel 7: £2,475 – 10 diwrnod dros 10 mis

Cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu i ddewis yr opsiwn sy’n fwyaf addas i chi.