5 Cwestiwn i’w Gofyn i Chi’ch Hun Am Dechnoleg Yn Eich Sefydliad

Technology in your business

Gan Dr. Meirion Morgan – Tiwtor 20Twenty a Darllenydd mewn Mathemateg ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.

Gwyddom i gyd am y rôl y mae technoleg yn ei chwarae yn ein bywydau personol – ein ffonau, ein setiau teledu, y gwasanaethau ffrydio a ddefnyddir gennym.

Mae hefyd yn hanfodol er mwyn i’n cwmnïau weithredu: mae ein cyfathrebu â chwsmeriaid yn aml yn dibynnu’n llwyr arni, yn ogystal â chyllid y cwmni. Yn enwedig yn yr oes o weithio o bell, mae cyfathrebu mewnol yn dibynnu ar y gallu i rannu dogfennau a data yn ddi-dor gan ddefnyddio technoleg.

Yn syml, os nad yw eich technoleg yn addas, bydd eich elw net yn dioddef. Dyma bum cwestiwn allweddol y dylech eu gofyn:

1. Pwy sy’n gyfrifol am dechnoleg yn eich sefydliad?

Mae’n gwestiwn syml, ond yn un na chaiff ei ofyn yn aml. Mae angen perchennog ar y lefel weithredol arni; yn rhy aml o lawer, ystyrir technoleg fel cost i gwmni, nid buddsoddiad, ac mae’n cael ei chladdu yn y cyfrifon. Mae’n troi’n rhywbeth i’ch swyddogaeth gyllid ddelio â hi.

Mae gwasanaethau technoleg a ddarperir gan drydydd partïon – rhai mawr, ac adnabyddus iawn – yn eistedd ochr yn ochr â chostau rheolaidd eraill heb neb yn craffu ar, nac yn deall, y risgiau posibl ynghlwm wrth y trydydd partïon hynny.

Gall hyd yn oed technoleg y’i datblygwyd neu y’i rheolir yn fewnol, lle gall fod yn fwy gweladwy i bawb, gael ei ystyried yn geeky ac yn faes “rhywun arall”.

2. A yw’r defnydd o dechnoleg wedi newid yn eich cwmni, nid lleiaf oherwydd COVID-19?

Mae pawb yn difyrru eu hunain â jôcs am wisgo trowsus loncian a chrys a thei ar alwad Zoom ar brynhawn dydd Gwener, gyda gwydraid o win y tu hwnt i olwg y camera, ond a yw pwysigrwydd y dechnoleg yn eich cwmni wedi tyfu heb ichi sylweddoli hynny?

Efallai y byddai’n syniad da cynnal archwiliad technoleg o’ch busnes; peidiwch â meddwl am eiliad ei fod yn gostus, neu’n wastraff arian. Yr allwedd er mwyn i dechnoleg berfformio’n well yn eich sefydliad, ac ar ei gyfer, yw deall ble a sut y’i defnyddir yn y lle cyntaf.

3. Ydych chi wedi cynnwys rôl technoleg yn eich strategaeth twf?

Fe ddylech. Gwneir dau gamgymeriad gan gwmnïau’n aml, yn enwedig yn y cyfnod hwn o wasanaethau cwmwl y credir bod ganddynt y gallu i ehangu’n gyflym: maent yn tybio y gallant brynu’r hyn sydd ei angen arnynt a’i roi ar waith yn gyflym, ac maent yn tybio y bydd technoleg yn ateb i bob problem mewn rhyw ffordd.

Yn ddieithriad, bydd y ddau’n achosi mwy o broblemau’n ddiweddarach: os nad heddiw, beth amser yn y dyfodol agos. At hynny, nid yw technoleg yn ymwneud â chyfrifiaduron, gwasanaethau a theclynnau’n unig: mae’n ymwneud â phobl hefyd. A oes gennych chi’r arbenigedd cywir yn fewnol i’ch cefnogi chi? Os nag oes, pam ddim?

4. Pwy sy’n gyfrifol am ddiogelwch data yn eich sefydliad?

Mae bywyd yn ymddangos yn gymharol syml pan mai dim ond ychydig o weithwyr sydd gan eich busnes. Gall y risg dyfu’n gynt wrth i’ch busnes dyfu ac i bobl ddechrau gweithio o bell.

Mae pob elfen o seiberddiogelwch yn dod yn bryderon mawr i fyrddau corfforaethol, ac nid yw eich sefydliad chi – beth bynnag yw ei faint – yn eithriad.

At hynny, a ydych yn tybio, oherwydd bod gennych ryw elfen o ddiogelwch (gwirio firysau ar gyfrifiaduron personol, er enghraifft) eich bod chi’n ddiogel? Pob lwc; mae ymosodwyr yn dod yn fwy soffistigedig bob dydd; nid “os” bydd eich diogelwch yn cael ei beryglu yw’r cwestiwn – ond “pryd”.

5. Sut bydd eich technoleg yn newid os yw eich busnes yn tyfu?

Yn fwy nag y byddech yn ei feddwl. Heb ddeall y gyd-ddibyniaeth hanfodol, o bosibl, rhwng eich sefydliad a’r dechnoleg a ddefnyddir ganddo, sut wyddoch chi y bydd yn gweithio’n dda wrth i’ch sefydliad dyfu?

Er bod pob busnes yn unigryw, bydd arweinwyr da’n ceisio ateb y cwestiynau uchod; mae arweinwyr da’n gwybod bod technoleg gadarn yn anghenraid, nid yn opsiwn.

Mae Cyrsiau Twf ac Arweinyddiaeth Busnes ym Met Caerdydd yn helpu i ddatblygu’r arweinwyr hynny. Mae’r offer a’r technegau a ddysgir ar y rhaglen yn meithrin arweinwyr sy’n deall pwysigrwydd allweddol technoleg i dwf busnes a pherfformiad gweithwyr.