Scott Beddow | Archwood Group

Richard Burbidge

Scott Beddow yw Rheolwr Caffael Archwood Group o’r Waun (y trydydd person o’r cwmni i gwblhau rhaglen 20Twenty). Sefydlwyd y cwmni ym 1867 ac mae’n frwd dros ddylunio, gweithgynhyrchu a chyflenwi cynhyrchion coed. Maent yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion arloesol sydd wedi’u cynllunio i drawsnewid cartrefi; o systemau grisiau cyfoes i fowldinau addurniadol i falwstradau allanol mewn gwydr a metel.

Dywedwch fwy wrthyf am Archwood Group

Mae Archwood Group yn fusnes teuluol sy’n cyflogi 125 o bobl.  Rydym wedi ennill safon aur Buddsoddwyr mewn Pobl,  ac wedi bod yn dylunio, gweithgynhyrchu, a chyflenwi cynnyrch coed ers dros 150 o flynyddoedd.  Yn gynharach eleni gwnaethom benodi Grŵp Gweithredu Amgylcheddol i ddatblygu cynllun rheoli ôl troed carbon sy’n canolbwyntio ar fod yn sefydliad sero net.

Bedd oedd manteision y rhaglen i chi?

Ar ôl cwblhau Rhaglen CMI Lefel 7, a gyllidwyd 80% gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, llwyddodd i roi ysgogiad newydd i mi fynd ymlaen a chyflawni hyd yn oed mwy yn y dyfodol.  Bydd y wybodaeth a’r arweiniad a gafwyd ar 20Twenty yn bwydo i mewn i benderfyniadau hollbwysig eraill wrth symud ymlaen.

Sut cafodd y rhaglen ei *chyflwyno?

Er i’r rhaglen gyfan gael ei chyflwyno’n rhithiol oherwydd y pandemig, weithiodd hyn yn dda iawn, wnaethom ni lwyddo i rwydweithio a chwrdd â phobl newydd ac roedd yr adnoddau a ddarparwyd yn cyfrannu at brofiad rhyngweithiol, pleserus.

Mae llawer o’r grŵp yn dal i gadw mewn cysylltiad a rhannu syniadau, trafod ein strategaethau ac rydym wedi tyfu gyda’n gilydd yn ystod y cwrs, gan gymharu arddulliau, a deall y gwahaniaeth rhwng arweinyddiaeth a rheolaeth”. (*cyflwynir ar hyn o bryd trwy ddysgu cyfunol, yn y cnawd a thros Zoom).

Daeth y tiwtoriaid â setiau sgiliau a safbwyntiau gwahanol a agorodd ein llygaid i ffyrdd gwahanol o feddwl. Roedd yn rhaglen llawn gwybodaeth ac yn werth chweil a byddwn yn bendant yn ei hargymell i unrhyw berchennog, rheolwr neu gyfarwyddwr busnes.

Beth wnaethoch chi ganolbwyntio arno fel rhan o’ch Cynllun Twf Strategol?

Roedd fy mhroject olaf yn ymwneud â rheoli newid ac mae eisoes yn rhan o’n gweithrediadau; sicrhau ein bod  i gyd yn cyfathrebu ac yn cydweithio ar draws y cwmni, bod pawb â’r un wybodaeth a bod pob aelod o’r tîm yn chwarae ei ran.

Fel llawer o fusnesau rydym wedi wynebu heriau yn ystod Covid – yn enwedig yn y gadwyn gyflenwi – ond roeddem yn rhagweld galw ac oedi posibl, felly mae wedi gweithio i ni.  Mae’r math hwn o feddwl strategol a chraffu wedi bod o fudd i’r cwmni gan fod 99% o’n cynnyrch mewn stoc – o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn fyd-eang, mae hynny’n ganlyniad gwych.

Yn gyffredinol, rydym wedi newid y ffordd rydym yn gwneud pethau ac ynghyd â’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar y rhaglen 20Twenty, mae hynny’n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda iawn.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Archwood Group, ewch i www.archwoodgroup.com