Trosolwg ar y busnes:
Mae A.N. Richards yn falch iawn o fod yn gwmni teuluol. Sefydlwyd y cwmni ym 1962 gan Arthur Neville a Dorothy Richards, ac mae’n parhau i gael ei redeg gan eu mab Bryn, ei wraig Rose a’u
wyres Johanna. Maent wedi bod ar eu safle presennol ers dros 40 mlynedd ac maent yn fasnachfraint awdurdodedig MAN Truck & Bus UK, sy’n darparu gwasanaeth cyflawn, o werthu a llogi cerbydau newydd ac ail law, i werthu rhannau, gwasanaethu a chynnal a chadw cerbydau.
Beth yw eich gwaith yn y cwmni teuluol?
Fi yw ysgrifennydd y cwmni ac oherwydd fy nghefndir cyfrifon, dechreuais gyda’r bwriad o helpu gyda chyfrifon y busnes.
Pan ddechreuais roedd yna lawer o wahanol agweddau roedd y cwmni angen eu gwella ac fel deliwr MAN roedd rhaid i ni hefyd sicrhau bod y safonau hynny’n cael eu bodloni.
Pam ddaethoch chi ar y rhaglen 20Twenty?
Gall bod mewn busnes teuluol fod yn beth unig iawn. Dim ond aelodau eich teulu sydd gennych i drafod syniadau efo nhw ac weithiau mae gennych ofn eich bod yn gwneud pethau’n anghywir, ac y gallech fod yn mynd i’r cyfeiriad anghywir. Cefais fy argymell i’r rhaglen gan gwsmer arbennig iawn, Caroline o Platts Animal Bedding.
Daeth 20Twenty ar yr adeg iawn i mi, gan ei fod yn eithaf anodd pan rydych chi’n perthyn i’r rheolwyr eraill mewn cwmni teuluol.
Beth wnaethoch chi ei ddysgu?
Gormod o bethau i’w rhoi mewn paragraff! Roedd yn wych. Y peth mwyaf oedd cwrdd â phobl o’r un anian a sylweddoli nad fi yw’r unig un sy’n teimlo’r straen sy’n dod yn sgil rhedeg busnes teuluol. Mae hynny oherwydd bod popeth mor bersonol a’ch bod chi’n poeni am y staff, yn ogystal â bod â chyfrifoldeb i’r staff a’r gymuned.
Y wers fwyaf a ddysgais oedd nad fy nghyfrifoldeb personol i yw sicrhau bod pawb yn hapus.
Dyna oedd y peth mwyaf. Bod pawb yn yr ystafell [20Twenty] yn mynd trwy’r un peth â mi.
Mi wnaethon ni ddysgu am strategaethau hyfforddi, technegau arwain a hefyd dysgu a deall mwy amdanon ni ein hunain a sut y gallwn symud ymlaen, i fod y gorau y gallwn fod.
Beth ydych wedi ei roi ar waith ers graddio o’r rhaglen 20Twenty?
Y peth pwysicaf un i mi oedd defnyddio’r holl ‘ymennydd yn ein busnes’. Dw i’n meddwl pan ddechreuais ar y cwrs 20Twenty fod gennym 36 o weithwyr, rydym bellach yn cyflogi 48. Rydym wedi dyblu mewn maint dros yr 16 mlynedd diwethaf. Y peth pwysicaf gwnes ei ddysgu ar y pryd, oedd bod 36 ymennydd yn y cwmni, felly defnyddiwch bob un ohonynt!
Sy’n golygu pob dydd, pa bynnag sefyllfa sy’n fy wynebu, dw i’n medru siarad â phawb.
Mae’n swnio’n syml, ond mae’n rhywbeth nad oedden ni’n ei wneud o’r blaen.
Felly, gwnes yn siŵr bod cyfathrebu’n gwella, trwy gael pawb i gymryd rhan. Dw i’n sicrhau fy mod i’n bresennol a bod gen i bolisi drws agored, ond nid er eu mwyn nhw yn unig, mae hefyd er mwyn i mi ofyn am eu barn, sy’n bwysau enfawr oddi ar fy ysgwyddau.
Nid oes rhaid i mi wybod yr atebion i gyd ac mae yna ddigon o bobl yn fy musnes sydd yn gwybod yr atebion.
A fyddech yn argymell y rhaglen i eraill?
Byddwn, yn sicr! Dw i eisiau ei wneud eto! Yn llythrennol, mae wedi newid y ffordd dw i’n edrych ar weithio mewn busnes teuluol.
Mi aeth o fod yn ormod o straen, a meddwl fedra’i ddim gwneud hyn, nid oes gen i’r gallu i wneud hyn, i feddwl wrth gwrs fy mod yn medru gwneud hyn! Nid oedd mor frawychus ag yr oeddwn yn meddwl ei fod ac o’r nifer fawr o bethau a ddysgais, sy’n ormod i’w cyfrif, mae wedi gwneud fy mywyd yn braf ac yn llawer haws.