Marciau uchaf am weledigaeth 20Twenty Shona o Sherratt Landscape

Shona Sherrat Landscape

Mae Shona Stockton o Sherratt Landscape Contractors yn dathlu ar ôl cael rhagoriaeth cyffredinol mewn rhaglen Twf Busnes 20Twenty, gan dderbyn y marc cyffredinol uchaf ledled Cymru.

Yn ogystal â chael gradd ragorol, llwyddodd Shona i gael gradd uchaf arall am ei Phroject Twf Strategol ac mae’n derbyn tystysgrif Ôl-radd haeddiannol mewn Arweinyddiaeth a thystysgrif Lefel 7 gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI).

Trosolwg o’r Cwmni

Mae Sherratt Landscape Contractors Ltd yn fusnes teuluol a sefydlwyd gyntaf ym 1968 gyda dros 50 mlynedd o brofiad a gwybodaeth broffesiynol helaeth am y diwydiant tirlunio. Gyda chontractwyr mewnol, ynghyd â thîm o dros 40 o staff wedi eu hyfforddi’n drwyadl, mae’r tîm yn Sherratt wedi ymrwymo i reoli projectau.

Beth ddysgoch chi ar 20Twenty?

Rwyf wedi dysgu am wahanol swyddogaethau arweinyddiaeth a’i ffurfiau niferus. Rwyf wedi dysgu am syniadau y gallaf eu rhoi ar waith o fewn y cwmni er mwyn cynorthwyo twf fy nhimau. Roedd yr agwedd hon yn bwysig i mi gan fy mod eisiau gwneud fy marc ar y cwmni trwy fod yr arweinydd gorau posibl a oedd yn cefnogi twf unigolion, timau a’r cwmni.

Sut oedd y SGP/aseiniadau?

I fod yn gwbl onest, roeddwn yn meddwl eu bod yn anodd ar brydiau, ond rwy’n credu bod hynny oherwydd mai fi yw’r math o berson sy’n rhoi pwysau ar fy hun gan fy mod bob amser yn ymdrechu i wneud y gorau ym mhopeth rwy’n penderfynu ei wneud.

Ar y cyfan, roeddwn yn sicrhau bod pynciau’r aseiniadau a ddewisais yn addas i’r cwmni, fel fy mod yn ymchwilio i bynciau y gellir eu haddasu i Sherratt’s.  Gweithiodd hyn yn dda, yn enwedig gyda fy SGP, gan fy mod wedi darllen am sawl agwedd gyffrous yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno.

A fyddech yn argymell y rhaglen i eraill?

Byddwn yn bendant yn argymell rhaglen Twf Busnes 20Twenty i’r rheini sydd am gymryd swyddogaeth weithredol mewn arweinyddiaeth. Yn benodol, mae’n rhoi dealltwriaeth eang o’r gwahanol ffyrdd o arwain y gall pobl eu defnyddio ac awgrymiadau defnyddiol y gellir eu cyflwyno.

Ers bod ar y rhaglen 20Twenty rwyf nid yn unig wedi dod yn Gyfarwyddwr yn Sherratt’s, ond rwy’n unigolyn sydd wedi dysgu gwybodaeth am arweinyddiaeth yn gyffredinol, ac wedi ymroddi i sicrhau llwyddiant a datblygiad fy nhimau yn ystod eu gyrfa gyda’r cwmni.